LLWYBR RHEILFFORDD Y MWMBWLS

MUMBLES RAILWAY TRAIL

LLWYBR RHEILFFORDD Y MWMBWLS

Efallai fod y rheilffordd wedi hen fynd, ond mae gweddillion yn dal i fodoli, os ydych yn gwybod lle i edrych. Cerddwch ar hyd y llwybr o Abertawe i Bier y Mwmbwls (neu i'r cyfeiriad arall), arhoswch ym mhob un o'r gorsafoedd, dysgwch am fyd anhygoel Rheilffordd y Mwmbwls, y cyntaf o'i math yn y byd.

Cwestiynau Cyffredin

Sut ydw i'n cerdded ar hyd Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls?

Mae’r rhodfa'n dilyn llwybr Rheilffordd y Mwmbwls, felly mae’r arhosfan gyntaf yn y man lle yr arferai Stryd Rutland fod, ychydig y tu allan i’r Ganolfan Hamdden ar Ffordd y Mwmbwls ger y goleuadau traffig. Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw dod o hyd i arwydd arhosfan yr orsaf, sganio'r cod QR â'ch dyfais symudol, a gwylio'r fideo. Ar ddiwedd pob fideo cewch eich cyfeirio at arhosfan yr orsaf nesaf. Wrth gwrs, nid oes rhaid i chi gerdded ar hyd y llwybr cyfan mewn un diwrnod. Gallwch gymryd eich amser a stopio yn un o’r caffis hyfryd ar hyd y ffordd wrth i chi edrych dros y golygfeydd anhygoel o Fae Abertawe a dychmygu teithio ar Reilffordd eiconig y Mwmbwls.

A oes angen i mi lawrlwytho unrhyw beth, neu gofrestru ar gyfer unrhyw beth?

Nac oes, does dim byd i'w lawrlwytho na chofrestru ar ei gyfer. Yn syml, rydych chi'n sganio'r cod ac yn gwylio'r fideos. Bydd arnoch angen cysylltiad data symudol er mwyn ffrydio'r fideos, fodd bynnag, ond mae'r signal symudol ar hyd y llwybr yn wych, felly ni ddylech gael unrhyw broblemau wrth lywio eich ffordd ar hyd Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls.

A ydych chi'n casglu fy nata personol?

Nac ydym, nid ydym yn casglu eich data o gwbl. Does dim byd i gofrestru ar ei gyfer, dim byd i'w lawrlwytho na'i lanlwytho, ac nid ydym yn casglu unrhyw ddata o gwbl. Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw cerdded ar hyd y llwybr, sganio'r codau QR a mwynhau'r fideos.

Arosfannau'r Gorsafoedd

Stryd Rutland

Gwyliwch y Fideo

Stryd Argyle

Gwyliwch y Fideo

Y Santes Helen

Gwyliwch y Fideo

Heol Ashleigh

Gwyliwch y Fideo

Heol Norton

Gwyliwch y Fideo

Ystumllwynarth

Gwyliwch y Fideo

Pier y Mwmbwls

Gwyliwch y Fideo

Landscape Design

Remaining determine few her two cordially admitting old. 

Landscape Design

Remaining determine few her two cordially admitting old. 

Cydnabyddiaethau

 

Cynhyrchu'r Fideo

Adroddwr: Huw Davies

Cyfweliadau a Ffotograffiaeth: Zorah 7 Studios

Peiriannydd Sain: Adam Howell

Model 3d o'r Trên: Keith Jones

Modelau 3d o'r Lleoliadau: Neal Petty

Cynhyrchydd: Naomi Trodden

Cyfarwyddwyd a Golygwyd: Zorah 7 Studios

 

Gyda diolch i'r canlynol:

Pob deiliad hawlfraint am y defnydd o ddelweddau a ffilmiau archif

Adran Technoleg Cerddoriaeth Greadigol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Adran y Cyfryngau a Chyfathrebu, Prifysgol Abertawe

Pawb a gytunodd i gael eu cyf-weld ar gyfer y fideos a'r straeon personol

Gower Unearthed

Cyfarwyddwyr Ymddiriedolaeth Datblygu'r Mwmbwls a'r cynghorwyr arbenigol:

Robin Bonham

Paul Davies

Peter Tremewan

Louise James

Terry Scales

Neil Thomas

Carol a John Powell

 

 

Yn ystod gwaith adeiladu parhaus ar gyfer Cynllun Amddiffyn Arfordir y Mwmbwls yn 2024, a hyd nes y bydd wedi'i gwblhau, dim ond atgynyrchiadau dros dro o arwyddion yr orsaf y bydd modd eu gosod yn arosfannau gorsafoedd Ystumllwynarth a Southend. Fodd bynnag, bydd yn dal i fod yn bosibl dilyn Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls trwy’r hen orsafoedd hyn trwy ddefnyddio’r codau QR a ddangosir ar yr arwyddion dros dro, a bydd atgynyrchiadau llawn o arwyddion y gorsafoedd yn cael eu gosod pan fydd y gwaith i amddiffyn yr arfordir wedi dod i ben.

 

Lottery Heritage Fund
Mumbles Community Council

Mae Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls yn brosiect gan Ymddiriedolaeth Datblygu'r Mwmbwls a ariennir gan: Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Gymunedol GWR, Cyngor Abertawe, Cyngor Cymuned y Mwmbwls, a chyda rhoddion cymunedol a gasglwyd trwy Crowdfund Swansea.
CYSYLLTWCH Â NI yn: mdtmumbles@gmail.com

Swansea City Council
GWR Community
Mumbles Community CouncilLottery Heritage FundSwansea City CouncilGWR Community

Mae Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls yn brosiect gan Ymddiriedolaeth Datblygu'r Mwmbwls a ariennir gan: Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Gymunedol GWR, Cyngor Abertawe, Cyngor Cymuned y Mwmbwls, a chyda rhoddion cymunedol a gasglwyd trwy Crowdfund Swansea.
CYSYLLTWCH Â NI yn: mdtmumbles@gmail.com

Cymraeg
linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram