LLWYBR RHEILFFORDD Y MWMBWLS

MUMBLES RAILWAY TRAIL

Hanes

Hanes byr Rheilffordd Abertawe a'r Mwmbwls

1804

Roedd Deddf Seneddol wedi cymeradwyo'r gwaith o osod rheilffordd rhwng Abertawe ac Ystumllwynarth, a hynny ar gyfer cludo deunyddiau wedi'u cloddio, sef glo a chalchfaen, i Ddociau Abertawe.

Mumbles Train
Mumbles Train (Horse) early on

1807

Dechreuodd y rheilffordd teithwyr gyntaf yn y byd gludo teithwyr o'r Mwnt yn Abertawe, sef yr orsaf drenau gofnodedig gyntaf yn y byd.

1855

Cafodd y rheilffordd ei hailosod yn unol â'r mesur rheilffyrdd safonol, ac ailgyflwynwyd gwasanaeth i deithwyr a gâi ei dynnu gan geffyl rhwng Abertawe ac Ystumllwynarth.
Mumbles Train (horse) in 1855
Mumbles Train at Rutland Street Depot

1870

Disodlwyd y cerbyd a gâi ei dynnu gan geffyl gan locomotif trên stêm o'r enw Pioneer.

1889

Y gwaith yn dechrau i ehangu'r rheilffordd o Ystumllwynarth i'r pier newydd yn y Mwmbwls.
Mumbles Train at Southend
Mumbles Train at Southend

1893

Yr estyniad i Southend yn agor.

1898

Mae Rheilffordd Abertawe a'r Mwmbwls bellach yn rhedeg yr holl ffordd i lawr i Bier y Mwmbwls.
Mumbles Train (steam) at the pier
Mumbles Train (electric) at Norton

1929

Caiff y lein ei thrydaneiddio, ac mae gwasanaeth trydan llawn yn dechrau ar 2 Mawrth 1929. Mae'n defnyddio fflyd o un ar ddeg o dramiau deulawr a adeiladwyd gan Brush Electrical Engineering Co yn Loughborough. Byddai hyn yn cael ei ehangu i dri ar ddeg o dramiau, pob un yn gallu cludo 106 o deithwyr. Câi rhai trenau eu dyblu, gan gynyddu'r capasiti i 212 o deithwyr.

1958

Caiff Rheilffordd Abertawe a'r Mwmbwls ei gwerthu i Gwmni South Wales Transport, sef prif weithredwr y gwasanaethau bysiau yn Abertawe. Yn 1959, aeth y cwmni â chynnig i'r Senedd i gau'r rheilffordd, ac, yn dilyn ymgyrch chwerw i achub Rheilffordd y Mwmbwls, enillodd.
Mumbles Train (electric) inside
Mumbles Train (electric) at Ashleigh Road

1959

Cafodd y rhan o'r rheilffordd o Southend i'r Pier ei chau ar 11 Hydref 1959.

1960

Ar 5 Ionawr 1960, rhedodd y trên o Abertawe i'r Mwmbwls ac yn ôl. Y gyrrwr oedd Frank Dunkin ac roedd yn llawn pobl bwysig leol; dyma oedd y tro olaf i Drên y Mwmbwls redeg. O fewn dim wedi i'r trên ddychwelyd i ddepo Stryd Rutland, dechreuodd y gwaith o ddatgymalu'r cledrau a'r ceir.

The Last Train 1960
Sad End to the Mumbles Train

1970au

Cafodd blaen Tram Rhif 7 ei achub i'w gadw; wedi blynyddoedd o esgeulustod, cafodd ei adfer i gychwyn ar ddechrau'r 1970au, ac mae 'nawr yn cael ei arddangos yn y Sied Tramiau yn Ardal Forol Abertawe.
Lottery Heritage Fund
Mumbles Community Council

Mae Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls yn brosiect gan Ymddiriedolaeth Datblygu'r Mwmbwls a ariennir gan: Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Gymunedol GWR, Cyngor Abertawe, Cyngor Cymuned y Mwmbwls, a chyda rhoddion cymunedol a gasglwyd trwy Crowdfund Swansea.
CYSYLLTWCH Â NI yn: mdtmumbles@gmail.com

Swansea City Council
GWR Community
Mumbles Community CouncilLottery Heritage FundSwansea City CouncilGWR Community

Mae Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls yn brosiect gan Ymddiriedolaeth Datblygu'r Mwmbwls a ariennir gan: Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Gymunedol GWR, Cyngor Abertawe, Cyngor Cymuned y Mwmbwls, a chyda rhoddion cymunedol a gasglwyd trwy Crowdfund Swansea.
CYSYLLTWCH Â NI yn: mdtmumbles@gmail.com

Cymraeg
linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram