Rheilffordd y Mwmbwls oedd y rheilffordd gyntaf yn y byd ar gyfer teithwyr; cafodd ei sefydlu yn 1807 a pharhaodd tan 1960. I gychwyn, câi ei dynnu gan geffyl, ac yn ddiweddarach defnyddiwyd locomotif stêm ar hyd cledrau sengl yn bennaf gerllaw morlin Bae Abertawe, gyda'r cyrchfan derfynol ger Pier y Mwmbwls. Byddai miloedd o bobl Oes Victoria ac Oes Edward a oedd ar eu gwyliau yn defnyddio'r rheilffordd i gyrraedd y Mwmbwls a mwynhau'r atyniadau i dwristiaid a'r traethau cyfagos. Yn 1929, cafodd y lein ei thrydaneiddio, a chafodd y trenau stêm eu disodli gan dramiau trydan deulawr coch, pob un yn gallu cludo 106 o deithwyr. Cafodd y lein ei hun ei gwella ar yr adeg hon, gyda system signalau effeithlon a nifer o fannau pasio. Nid twristiaid yn unig a fyddai'n defnyddio Rheilffordd y Mwmbwls; byddai'r boblogaeth leol yn ei defnyddio hefyd i deithio i'r gwaith ac i'r ysgol. Roedd yn nodwedd boblogaidd iawn o fywyd y Mwmbwls ac Abertawe hyd at ei thranc sydyn yn 1960, yn bennaf oherwydd y twf ym mhoblogrwydd trafnidiaeth fodur. Tynnwyd y cledrau, a dymchwelwyd y gorsafoedd, y cyfarpar a'r arwyddion. Prin iawn yw'r dystiolaeth o’r rheilffordd sy’n bodoli ar y tir heddiw.
Mae Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls yn gofnod ac yn ddathliad parhaol o Reilffordd y Mwmbwls, gan greu atgof gweladwy o'r llwybr gwreiddiol yr oedd y rheilffordd eiconig hon yn teithio ar hyd-ddo, a hynny ar ffurf llwybr cerdded. Mae atgynyrchiadau mowld ffowndri o arwyddion y gorsafoedd wedi cael eu gosod mewn 11 o fannau ar hyd y llwybr, pob un yn cynnwys cod QR y gellir ei gyrchu â ffôn clyfar, yn dangos ffilmiau a ffotograffau o'r archif, ailgreadau realiti estynedig a gynhyrchwyd gan gyfrifiadur o'r tramiau coch eiconig a rhai o'r gorsafoedd, ynghyd â sylwebaeth yn cynnwys gwybodaeth gefndir am y llwybr a recordiadau o atgofion o'r rheilffordd. Mewn mannau allweddol ar hyd y llwybr, mae yna hefyd fyrddau gwybodaeth, posteri a murluniau. Mae’r llwybr yn cychwyn yn Stryd Rutland, Abertawe, a gellir ei ddilyn ar droed yr holl ffordd i Bier y Mwmbwls.
Mae Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls yn brosiect gan Ymddiriedolaeth Datblygu'r Mwmbwls a ariennir gan: Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Gymunedol GWR, Cyngor Abertawe, Cyngor Cymuned y Mwmbwls, a chyda rhoddion cymunedol a gasglwyd trwy Crowdfund Swansea.
CYSYLLTWCH Â NI yn: mdtmumbles@gmail.com
Mae Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls yn brosiect gan Ymddiriedolaeth Datblygu'r Mwmbwls a ariennir gan: Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Gymunedol GWR, Cyngor Abertawe, Cyngor Cymuned y Mwmbwls, a chyda rhoddion cymunedol a gasglwyd trwy Crowdfund Swansea.
CYSYLLTWCH Â NI yn: mdtmumbles@gmail.com