Mae Ymddiriedolaeth Datblygu'r Mwmbwls yn sefydliad nid-er-elw ar lawr gwlad a sefydlwyd yn 1999 ac sy'n agored i bawb yn y gymuned sy'n ymroddedig i adfywio'r Mwmbwls trwy brosiectau a chynlluniau hunangymorth. Mae'r ymddiriedolaeth yn gweithio i wella iechyd a llesiant economaidd y Mwmbwls er budd y gymuned leol, gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol a'r awdurdodau statudol. Mae Ymddiriedolaeth Datblygu'r Mwmbwls wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau dros fwy na dau ddegawd o weithredu, o sefydlu Marchnad y Mwmbwls, plannu perllan gymunedol, rhedeg prosiect archaeolegol cymunedol, a dangos ffilmiau mewn sinema gymunedol bob mis, i sesiynau casglu sbwriel a gorsaf radio gymunedol.
Mae Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls yn brosiect gan Ymddiriedolaeth Datblygu'r Mwmbwls a ariennir gan: Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Gymunedol GWR, Cyngor Abertawe, Cyngor Cymuned y Mwmbwls, a chyda rhoddion cymunedol a gasglwyd trwy Crowdfund Swansea.
CYSYLLTWCH Â NI yn: mdtmumbles@gmail.com