LLWYBR RHEILFFORDD Y MWMBWLS

MUMBLES RAILWAY TRAIL

LLUNIO LLWYBR RHEILFFORDD Y MWMBWLS

Cyflwyniad

Roedd yna sawl elfen ynghlwm wrth lunio Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls, gyda rhai ohonynt i'w gweld yn glir yn y prosiect gorffenedig, ac eraill o'r golwg.

Aethom ati i godi arian ac, yn y lle cyntaf, apeliwyd i'r gymuned leol am gymorth, ac am roddion bach a mawr, i ddangos i'r byd y tu allan fod y Mwmbwls am ddathlu'r agwedd bwysig hon ar ei threftadaeth. Roeddem wrth ein bodd â'r ymateb, a hoffem ddiolch i'r holl unigolion a busnesau lleol a addawodd roddion trwy ein hapêl Spacehive: Cyllido Torfol Abertawe.

Hoffem hefyd ddiolch i'n prif gyrff cyllido, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Gymunedol GWR, Cyngor Abertawe, Cyngor Cymuned y Mwmbwls a Chymdeithas Gŵyr.

Yna daeth proses y Cais Cynllunio. Cymerodd hyn gryn amser! Roedd y broses yn un adeiladol iawn, gyda mewnbwn gan amryw o adrannau Cyngor Abertawe, yn cynnwys Treftadaeth, Priffyrdd a Thwristiaeth.

Dylunio

Nesaf, daeth y gwaith dylunio – dyluniadau ar gyfer atgynhyrchiadau o arwyddion y gorsafoedd eu hunain yn rhan o'r broses Gynllunio, ac ar gyfer y crefftwyr artisan a oedd yn gwneud y patrymau castio ar gyfer y ffowndri, ac yna rhagor o ddyluniadau ar gyfer posteri gwybodaeth yn Blackpill a byrddau gwybodaeth mewn mannau allweddol ar hyd y Llwybr. Gwnaed y dyluniadau hyn gan Kneath Associates o'r Mwmbwls. Dyluniwyd logo Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls gan Craig Jones Designs, y Mwmbwls.

Patrymau Castio Pren

Wrth ddechrau cynhyrchu'r arwyddion, roedd yn rhaid cydosod patrymau castio pren, y byddai alwminiwm yn cael ei arllwys i mewn iddynt. Precision Woodcraft yn Nyfnaint oedd yn gyfrifol am y patrymau.

Arwyddion Alwminiwm Bwrw

Aeth y rhain i Cambrian Castings ym Mhen-clawdd ar gyfer prosesau cyffrous yn ymwneud â metelau tawdd a thân!

Paratoi a Phaentio'r Arwyddion

Yna, roedd yn rhaid i'r arwyddion alwminiwm bwrw gael eu paratoi a'u paentio, a'u drilio i osod coesau arnynt ac i gysylltu'r placiau alwminiwm bach sy'n dangos logo'r Llwybr, heb anghofio'r codau QR hollbwysig. Gwnaed yr holl waith hwn gan The Box Furniture yn Abertawe, ac roedd yn cynnwys sgwrio â thywod, galfanu a golchi ag asid, preimio'r arwyddion, a'u chwistrellu a'u paentio â llaw.

Cynnwys Digidol

Yn y cyfamser, roedd y cynnwys QR yn cael ei baratoi. Yn garedig iawn, cytunodd aelodau o'r gymuned leol i gael eu cyf-weld i adrodd eu straeon personol am Reilffordd y Mwmbwls. Ysgrifennwyd y sgriptiau mewn cydweithrediad â Zorah 7 o Bort Talbot. Yna, recordiwyd y llefaru gan yr actor Huw Davies o Abertawe, a hynny gan ddefnyddio cyfleusterau recordio a ddarparwyd yn garedig gan Adran Technoleg Cerddoriaeth Greadigol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Abertawe. Ffilmiwyd y lluniau drôn o'r awyr uwchben Bae Abertawe gan Cyfarth Ltd o West Cross. Gwnaed y gwaith modelu 3D gan Keith Jones a Neal Petty, a rhoddwyd yr holl elfennau gweledol hyn, ynghyd â lluniau llonydd a ffilmiau o'r archif a fideo cyfoes o leoliadau'r cyn-orsafoedd, at ei gilydd mewn proses gydweithredol bellach gyda Zorah 7. Rhoddwyd y wefan at ei gilydd hefyd yn dilyn yr un broses ryngweithiol.

Gosod yr Arwyddion

Yn olaf, gosodwyd yr atgynhyrchiadau o arwyddion y gorsafoedd yn berffaith gan y contractwyr lleol Andy a Neil.

Gyda diolch

Yn ystod gwaith Cynllun Amddiffyn Arfordir y Mwmbwls, dim ond arwyddion dros dro y gellir eu harddangos yn Ystumllwynarth a Southend, a hoffem ddiolch i Gyngor Abertawe a Knights Brown am eu help yn hyn o beth.

Hoffai Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls hefyd ddiolch i bawb a roddodd gyngor arbenigol trwy gydol y prosiect, o Carol a John Powell a wiriodd y testun ysgrifenedig am gywirdeb hanesyddol, Neil Thomas a gysylltodd ag Adran Cyfryngau Prifysgol Abertawe ac a arweiniodd deithiau cerdded ar hyd y Llwybr, i Gower Unearthed, ac i'r holl ddeiliaid hawlfraint am y defnydd o ddelweddau a ffilmiau archif. Diolch hefyd i reolwyr Pier y Mwmbwls am eu cydweithrediad caredig.

Lottery Heritage Fund
Mumbles Community Council

Mae Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls yn brosiect gan Ymddiriedolaeth Datblygu'r Mwmbwls a ariennir gan: Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Gymunedol GWR, Cyngor Abertawe, Cyngor Cymuned y Mwmbwls, a chyda rhoddion cymunedol a gasglwyd trwy Crowdfund Swansea.
CYSYLLTWCH Â NI yn: mdtmumbles@gmail.com

Swansea City Council
GWR Community
Mumbles Community CouncilLottery Heritage FundSwansea City CouncilGWR Community

Mae Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls yn brosiect gan Ymddiriedolaeth Datblygu'r Mwmbwls a ariennir gan: Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Gymunedol GWR, Cyngor Abertawe, Cyngor Cymuned y Mwmbwls, a chyda rhoddion cymunedol a gasglwyd trwy Crowdfund Swansea.
CYSYLLTWCH Â NI yn: mdtmumbles@gmail.com

Cymraeg
linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram