Roedd Deddf Seneddol wedi cymeradwyo'r gwaith o osod rheilffordd rhwng Abertawe ac Ystumllwynarth, a hynny ar gyfer cludo deunyddiau wedi'u cloddio, sef glo a chalchfaen, i Ddociau Abertawe.
Dechreuodd y rheilffordd teithwyr gyntaf yn y byd gludo teithwyr o'r Mwnt yn Abertawe, sef yr orsaf drenau gofnodedig gyntaf yn y byd.
Ar 5 Ionawr 1960, rhedodd y trên o Abertawe i'r Mwmbwls ac yn ôl. Y gyrrwr oedd Frank Dunkin ac roedd yn llawn pobl bwysig leol; dyma oedd y tro olaf i Drên y Mwmbwls redeg. O fewn dim wedi i'r trên ddychwelyd i ddepo Stryd Rutland, dechreuodd y gwaith o ddatgymalu'r cledrau a'r ceir.
Mae Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls yn brosiect gan Ymddiriedolaeth Datblygu'r Mwmbwls a ariennir gan: Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Gymunedol GWR, Cyngor Abertawe, Cyngor Cymuned y Mwmbwls, a chyda rhoddion cymunedol a gasglwyd trwy Crowdfund Swansea.
CYSYLLTWCH Â NI yn: mdtmumbles@gmail.com